SL(6)396 – Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023

Cefndir a diben

Mae'r Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (“y Gorchymyn”) yn sefydlu cynlluniau masnachu ar gyfer Prydain Fawr.

Mae'r Gorchymyn yn ymdrin â phedwar cynllun masnachu a fydd yn gweithredu trwy gyfyngu ar nifer y cerbydau newydd nad ydynt yn ddi-allyriadau y gellir eu cofrestru ym Mhrydain, ac ar lefel yr allyriadau CO2 a ganiateir o gerbydau o'r fath, fel rhan o'r pontio i gerbydau di-allyriadau. Bydd y fframwaith polisi hwn yn cymryd lle Rheoliad Allyriadau CO2 Ceir a Faniau Newydd presennol y DU, a ddaw i ben ym Mhrydain Fawr ar ddiwrnod cychwyn y Gorchymyn hwn ond a gedwir yng Ngogledd Iwerddon am y tro.

Mae'r Nodyn Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Gorchymyn yn darparu y bydd y cynlluniau masnachu’n cyfyngu ar allyriadau CO2 sy'n deillio o gofrestru ceir a faniau newydd, neu'n annog cyfyngu arnynt, ac adlewyrchir y diben hwn hefyd yn erthygl 4(2) o'r Gorchymyn. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn darparu y bydd y Gorchymyn yn cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau Cymru a nod Sero Net Cymru a'r Deyrnas Unedig.

Y weithdrefn

Cadarnhaol Drafft.

Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, a Senedd yr Alban. Rhaid i'r drafft gael ei gymeradwyo gan bob un o'r deddfwrfeydd hynny cyn y gellir ei wneud gan Ei Fawrhydi.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 5 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gosodwyd y Gorchymyn gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, a Senedd yr Alban. Mae’r Gorchymyn wedi’i wneud yn Saesneg yn unig. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn datgan fel a ganlyn (ym mharagraff 2.2):

Gan mai Senedd y DU fydd yn craffu ar y Gorchymyn, ni[d] ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol creu na gosod yr offeryn hwn yn ddwyieithog.”

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Diffinnir y term “banked” at ddibenion Penodau 1 a 3 o Ran 3 o'r Gorchymyn. Fodd bynnag, caiff ei ddefnyddio hefyd yn erthygl 77(l) ac (m) yng nghyd-destun “banked CRTS allowances” a “banked VRTS allowances” yn y drefn honno. Gan y ceir erthygl 77 yn Rhan 4 o'r Gorchymyn, nid yw'r diffiniad o “banked” yn estyn i'r darpariaethau hynny ac mae'r term yn parhau i fod heb ei ddiffinio at y diben hwnnw. Yn yr un modd ag y diffinnir “CRTS allowance” a “VRTS allowance” at ddibenion y Gorchymyn yn ei gyfanrwydd yn erthygl 3(1), gall fod wedi bod yn ddefnyddiol pe bai'r diffiniad o “banked” wedi ei estyn i Ran 4 neu i'r Gorchymyn cyfan.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae’r ymadrodd “relevant national authorities” yn ymddangos yn erthygl 96(3) o'r Gorchymyn, a pharagraffau 3 a 5 o Atodlen 3 iddo. Mewn dau o'r achosion hyn, diffinnir yr ymadrodd mewn troednodyn fel ystyr fel y'i diffinnir yn adran 47 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Nid yw'n ymddangos bod rheswm amlwg dros gynnwys y diffiniad mewn troednodiadau, sy'n rhannau anweithredol o'r testun, yn hytrach nag yng nghorff y Gorchymyn ei hun, er enghraifft yn erthygl 3(1) (dehongli).

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae erthygl 110(16)(f) yn hepgor yr ymadrodd “in domestic law or, as the case may be, as that Regulation has effect” yn y ddau le y mae'n digwydd, o bwynt 1.2.4 yn Rhan A o Atodiad 3 i Reoliad (UE) 2019/631. Fodd bynnag, nid yw'r ymadrodd hwn yn ymddangos ym mhwynt 1.2.4. Nodir bod yr ymadrodd “in domestic law and as that Regulation has effect” yn ymddangos ym mhwynt 1.2.4 ar 3 achlysur ac mae’n bosibl mai dyma’r ymadrodd y bwriedir ei hepgor.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae erthygl 110(16)(h) yn disodli'r ymadrodd “light commercial vehicle” ag “NI light commercial vehicle” ym mhwynt 2 yn Rhan A o Atodiad 3 i Reoliad (UE) 2019/631. Fodd bynnag, mae'r ymadrodd “light commercial vehicle” yn ymddangos ar ddau achlysur ym mhwynt 2 ac nid yw'n glir a fwriedir i erthygl 110(6)(h) newid un achos (ac, os felly, pa un) neu'r ddau achos.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru ac eithrio mewn perthynas â phwynt 1.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

30 Hydref 2023